Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mary Burrows, Betsi Cadwaldr University Health Board Geoff Lang, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Kevin Orford, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Mary Burrows, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl.
2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau gweithredu:
Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddarparu:
· nodyn ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau; a
· ffigurau yn rhoi manylion am gwynion ffurfiol, pryderon a chanmoliaeth a leisiwyd wrth y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys y patrymau dros y tair blynedd diwethaf. Nododd y Pwyllgor y byddai hefyd yn gofyn am ffigurau tebyg gan Fyrddau Iechyd eraill.
2.3 Croesawodd y Cadeirydd Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; a Kevin Orford, Cyfarwyddwr Dros Dro - Materion Ariannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
2.4 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau Gweithredu:
Gofynnwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddarparu:
· eglurhad o sut mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu arfer da â sefydliadau eraill o ran prynu defnyddiau traul yn effeithiol;
· nodyn ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 4 i 6.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chynhaliodd y Pwyllgor sesiwn breifat.
4. Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar Gyllid Iechyd
4.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, ni thrafododd y Pwyllgor yr eitem hon.
5. Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Materion allweddol a themau sy'n dod i'r amlwg
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y materion allweddol a’r themâu sy'n dod i'r amlwg yn yr ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen, ac i anfon sylwadau at y tîm clercio.
6. Ystyried y rhaglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2013
6.1 Nododd y Pwyllgor raglen waith bosibl ar gyfer tymor y gwanwyn 2013.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.